Beth yw'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol?
Mae'r canllaw hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
Rydyn ni yma i gynnig cyngor i unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.
Gallwn gynnig cyngor a chymorth o bob math fel partner cyflenwi swyddogol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC).
Mae Fy Nghymuned yn cynnig amrywiaeth o adnoddau ar bynciau sy'n ymwneud â'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, gan gynnwys gwybodaeth am y gronfa a chanllawiau defnyddiol eraill i helpu grwpiau i ddatblygu a rheoli asedau cymunedol cynaliadwy.
Gallwch chwilio am adnoddau a chanllawiau gan ddefnyddio'r blwch chwilio sydd ar frig y dudalen neu gallwch fynd i brif dudalen y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i gael gafael ar bob math o wybodaeth sydd wedi’i chrynhoi gennym.
Gallwn ddarparu cyngor cychwynnol i bob ymgeisydd sydd â diddordeb i bennu a yw prosiect yn gymwys i wneud cais i'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a'ch helpu i gyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb i'r cyllidwr (DLUHC).
Os oes gennych chi gwestiynau am y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol neu'r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â ni.
Ar ôl i chi gyflwyno ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, efallai y cewch gynnig cymorth manwl gan ddarparwr cymorth datblygu. Bydd y cymorth yn eich helpu i ddatblygu cynnig eich prosiect a gwneud cais cryf i'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol os mai dyna'r cam nesaf sy’n iawn i chi.
Gall y cymorth manwl hwn gynnwys:
Cynigir cymorth manwl dim ond os oes gennych chi gynnig prosiect clir a'ch bod angen help i ddatblygu'r prosiect, cynyddu gallu’r sefydliad a mynd i'r afael â meysydd perygl posibl.
Bydd cynigion o gymorth hefyd yn ystyried lefelau o angen cymunedol lle mae'r ased cymunedol wedi'i leoli, a bydd yn sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu ledled y DU ac ar draws pob math o asedau.
Mae 10 darparwr cymorth datblygu ar gael i ddarparu'r cymorth manwl hwn. Mae'r darparwyr cymorth yn cwmpasu'r DU gyfan ac mae ganddynt lefel uchel o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda sefydliadau sy'n datblygu ystod o asedau cymunedol.
Os ydych chi'n derbyn cymorth manwl, efallai yr argymhellir hefyd eich bod yn cael grant refeniw bach a gofyniad cyllid cyfatebol llai o faint ar gyfer y Gronfa. Bydd y penderfyniad ynghylch a fydd eich prosiect yn cael ei ystyried ar gyfer llai o gyllid cyfatebol yn cael ei wneud fesul achos ar ôl cyflwyno cymorth manwl yn llwyddiannus.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais o'r blaen, a bod y cais hwnnw wedi bod yn aflwyddiannus, efallai y cewch eich atgyfeirio gan y DLUHC i dderbyn cymorth manwl i'ch helpu chi i roi cynnig arall arni.
Ar ôl i chi wneud cais llwyddiannus, efallai y bydd angen cymorth pellach arnoch i ddefnyddio'r grant cyfalaf a chyflawni eich prosiect. Efallai y cewch eich atgyfeirio gan y DLUHC i gael cymorth manwl gyda hyn.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
Crëwch gyfrif Fy Nghymuned heddiw er mwyn cael ein hadnoddau a'n hoffer diweddaraf wedi'u hanfon yn syth i'ch mewnflwch.